“Bydd Gŵyl y Synhwyrau dal i ddisgleirio y Nadolig hwn”

gyda No Comments

“Bydd Gŵyl y Synhwyrau dal i ddisgleirio y Nadolig hwn”

Eleni, ni fyddwn yn gallu goleuo Llandeilo gyda’r gŵyl arferol, ond peidiwch poeni : Mae Pwyllgor Gŵyl y Synhwyrau (y corachod!) wedi bod yn gweithio gyda gwerthwyr a stondinau o’r ŵyl diwethaf ac eleni byddwn yn cynnal “Gŵyl Y Synhwyrau Rhithwir Llandeilo” a ellir ei fynychu trwy Facebook.

Bob dydd, bydd y stondinwyr yn diweddaru ymwelwyr am gynigion arbennig, eu cynnyrch a sut i’w prynu. Bydd rafflau, a chystadlaethau i’r rheiny sydd yn rhannu digwyddiadau a negeseuon penodol. Bydd Gŵyl y Synhwyrau Rhithwir Llandeilo yn cael ei redeg o Hydref 30ain ac o leiaf trwy mis Tachwedd i gyd. Dywedodd Christoph Fischer, Cadeirydd Pwyllgor Gŵyl y Synhwyrau, “Rydym eisiau parhau i gefnogi y busnesau sydd yn cael eu heffeithio i oroesi’n gryf ac yn iach”

Hoffai Bwyllgor Carwyr Nadolig gynnig i bawb sy’n mwynhau’r Gŵyl y Synhwyrau yn Llandeilo i barhau i fwynhau, ond o gysur eu cartrefi am y tro cyntaf.

Wrth ddilyn ein ardaloedd siopa arferol, rydym wedi rhannu’r busnesau a stondinwyr mewn i 4 grŵp gwahanol ar Facebook :

Ardal Fwyd https://www.facebook.com/groups/341347123632654

Celf a Chrefft https://www.facebook.com/groups/1029740374209904

Siopau Llandeilo https://www.facebook.com/groups/339355917127266/

Neuadd Ffasiwn https://www.facebook.com/groups/647034979249501/